Saturday 4 September 2010

Roedd 'I' yn 'tim' o Gymru neithiwr

Roedd llawer o gobaith gyda fi cyn yr ymgyrch hwn felly mae'r canlyniad neithiwr yn erbyn Montenegro yn siomedig dros ben. Ro'n i'n meddwl bod Cymru yn mynd i ennill, oedd y gorchfygiad yn yr un lle un flywyddyn yn ol yn mynd i helpu ni.

Dechreuodd Cymru'n dda - ond roedd 'na troeon pan roeddet ti'n gallu gweld gwendidau yn yr amddiffyn Cymru. Ar ol y gol Montenegro, fe gollodd Cymru pob credinaeth a roedden ni'n chwarae fel un ar ddeg chwaraewr yn lle tim.

Gwastraffodd Craig Bellamy cwpl o siawns pan dylai fe fod wedi pasio'r bel i gyd-chwaraewr. Roedd Gareth Bale yn gorau chwaraewr Cymru ond weithiau triodd e rhy galed i greu pethau a wnaeth e golli'r bel. Doedd dim teimlad o undod o gwbl - a pan mae gyda chi carfan sy'n rhif 84 yn y rhestr FIFA, mae'r undod yn bwysig iawn!

Ar ol colli, mae rhaid i ni godi pedwar o bwyntiau yn erbyn Bwlgaria a'r Swistir ym mis Hydref a mae rhaid i'r chwaraewyr edrych fel tim. Heb hynny, mae ofn arna i bydd yr ymgyrch yn gorffen cyn dechrau.

No comments: