Sunday 26 September 2010

Keogh K.O.

Sgoriodd Andy Keogh ei gol gyntaf am yr Adar Glas un munud cyn diwedd y gem ddoe, yn helpu'r tim osgoi ei trydydd curfa yn olynol. Wnaeth y canlyniad sicrhau bod Caerydd yn dringo i ail lle yn y tabl. Gyda'r ymweliad o Crystal Palace nos Fawrth nesa mae pathau'n edrych yn dda achos mae Crystal Palace wedi colli pob gem oddi cartref y tymor hwn heb sgorio.

Cymerodd Millwall dim ond deg munud i sgorio - gol rhy hawdd diolch i Lee Naylor. Cafodd yr amddiffynwr gem i anghofio, rhododd e'r bel i ffwrdd gormod o amser ac wnaeth Millwall ymosod e ar bob cyfle. Yn y pen arall o'r maes, cafodd Bothroyd gem i gofio. Sgoriodd e'r gol gyntaf Caerdydd a chreuodd e'r gol Keogh. Rhwng y dau gol, cafodd Trotter ei cerdyn coch, fe gollodd Peter Whittingham cic gosb a doedd Caerdydd ddim yn chwarae yn dda - roedd gyda nhw diffyg o brys yn erbyn deg dyn.

Mae rhaid iddyn nhw dysgu sut i ladd timau; mae gyda nhw talent anhygoel (o leiaf ymysg y chwaraewyr canol cae a'r ymosodwyr) felly mae rhaid iddyn nhw credu yn eu hunain a goruchafu gwrthwynebwyr.

No comments: