Tuesday 14 September 2010

Flynn to win!

Wnaeth Brian Flynn cais i fod rheolwr Cymru pum mlynedd yn ol pan cafodd y swydd ei roi i John Toshack. Ar ol ei apwyntiad, rhododd Toshack rheolaeth o'r timau Cymry ifanc i Flynn. Mae Flynn wedi gwneud pethau arbennig gyda'r tim o dan 21 - dwywaith mae fe wedi'u cymryd nhw yn agos at pencampwriaeth mawr. A mae nifer o'i chwaraewyr wedi dechrau chwarae yn nhim 'A' Toshack.

Unwaith bod Toshack wedi mynd yr wythnos diwetha, Flynn oedd y dewis call. Roedd eraill yn cynnig eu gwasanaethau (fel John Hartson) ond roedd Flynn y rheolwr yn fwyaf profiadol. Mae e'n haeddu ei gyfle i ddangos beth mae fe'n gallu gwneud - a mae fe'n deall y rhythm o'r byd pel droed rhwngwladol. Mwy 'na hynny, mae fe'n nabod y rhan mwyaf o'r chwaraewyr a gwybod sut i'u defnyddio nhw mewn system.

Fi'n falch dros ben bod yr FAW wedi penderfynu newid rheolwr cyn y gem nesaf yn erbyn Bwlgaria. Beth fyddai wedi bod yn digwydd tasai Toshack wedi bod yn aros fel rheolwr a mae'r tim Cymru wedi bod yn ennill y dau gem nesa? Fyddai Toshack wedi bod yn aros tan diwedd yr ymgyrch? Doeddwn i ddim yn galw am ben Toshack cyn yr wythnos diwethaf ond unwaith bod pobl wedi dechrau siarad am ei ymadawiad, unwaith dechreuodd y son - cadarnhau gan Toshack ei hun - roedd rhaid i'r FAW gweithredu yn gyflym. Mae'n syndod mawr bod nhw wedi!

No comments: